Sefydlwyd Domus Cambria yn 2011, ac mae’n fusnes moesegol sy'n anelu at ddatblygu cartrefi a gwasanaethau yn fasnachol, gan ail-fuddsoddi ei elw mewn cymunedau lleol.
Mae Domus Cambria yn Gwmni preifat, cyfyngedig gan gyfranddaliadau ac yn is-gwmni o Tai Gogledd Cymru.
Er mai ein prif nod yw adeiladu cartrefi ar gyfer elw, mae'n bwysig ein bod yn gwneud hynny mewn modd moesegol. Rydym hefyd yn cydnabod gwerth creu swyddi a buddsoddi yn ein cymunedau lleol.
Y datblygiad cyntaf oedd Hafan Gogarth, fflatiau Unigryw ar gyfer pobl dros 55 oed ym Mhenmorfa, Llandudno.
Rydym yn gwybod y gall y penderfyniadau a wnawn gael effaith enfawr yn ein cymunedau.
Trwy fod yn glir pa ganlyniadau rydym yn eu disgwyl a gwneud y peth iawn, gall gweithgarwch Domus Cambria ddarparu gwerth ychwanegol wrth arddangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
Byddwn yn sicrhau budd cymunedol ac yn ymgorffori gwerth cymdeithasol yn ein holl waith lle bo hynny'n bosibl.